Daw un o elynion penna’ Picton i’r fei am y tro cynta’, ond dydi ennill ar y cae ddim yn ddigon i Reg Clark. Mae rheolwr Brynaber yn awyddus i gael y gora’ o Picton mewn cwis hefyd. Yn y cyfamser, mae ‘na ddryswch wrth ddosbarthu cylchgronau yn y pentra - Y Ffedog a rhai budur o Sgandinafia sy’n gwneud y rownds. Ond pwy fydd yn cael y bai am roi’r mochyndra aflan i’r henoed? Pwy sy’n cael ei disgrifio gan y bois i’r pod fel “c*c wyllt”? Ac ers pryd ma’ Tecs yn fecanic da?!
Gwestai arbennig: Mared Maggs
Noddwyr: Reg Clark Painter & Decorator
Gwaith dylunio: Celt Iwan
Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain
Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb
Troslais: Sian Naiomi, Emyr 'Himyrs' Roberts
Gwefan: podmidffild.cymru
Twitter: @podmidffild
Facebook: @podmidffild
Instagram: @podmidffild
Ebost | Email: podmidffild@gmail
Podchaser is the ultimate destination for podcast data, search, and discovery. Learn More